Llanon, Ceredigion
Amdanon ni
Ein ethos yn Cigydd Sion Jones Butcher yw i ddarparu cynnyrch o’r safon uchaf i bob un cwsmer.
Mae gan Sion dros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, wedi iddo ddangos diddordeb mewn cigyddiaeth pan yn ifanc iawn. Rydym yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cwsmer ardderchog ac ymdrechwn i gynnig cyfleustra, cysondeb a phris teg i bawb.
Bydd croeso cynnes i bawb yn Cigydd Sion Jones Butcher, Llanon.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau.
O’R GÂT I’R PLÂT
Cynnyrch o Safon
Gyda’r ddau ohonom wedi’n magu ar ffermydd bîff a defaid, mae cynhyrchu bwyd wastad wedi bod yn rhan annatod o’n bywydau ac mae cael y cyfle i werthu bwyd o’r gât i’r plât yn gwireddu breuddwyd oes. Rydym yn falch o gefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr lleol wrth i ni brynu cig cynaliadwy o safon uchel gyda milltiroedd bwyd isel.